Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
21 Mawrth 2018
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl Cwestiwn 2.
(20 munud)
Gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Mick Antoniw (Pontypridd): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am oblygiadau adroddiad y Comisiwn Hapchwarae ar hapchwarae yng Nghymru?
Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro): Yn sgil y cyhoeddiad heddiw gan Lywodraeth y DU i gynyddu cyflogau dros filiwn o staff y GIG yn Lloegr, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogau'r GIG yng Nghymru?
(5 munud)
(60 munud)
NDM6696 Simon Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.83:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru).
Gosodwyd Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 2 Hydref 2017.
Dogfennau ategol
Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau
– 9 Mawrth 2018
Ymateb y Pwyllgor Cyllid – 20 Mawrth 2018
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
– 9 Mawrth 2018
Ymateb y Pwyllgor Cyllid – 20 Mawrth 2018
(60 munud)
NDM6666
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru)
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod gwasanaethau trafnidiaeth gymunedol yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymunedau, yn darparu trafnidiaeth ar gyfer pobl sy'n wynebu rhwystrau rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus a phreifat, yn cefnogi pobl i fyw'n annibynnol a chael mynediad i wasanaethau hanfodol, gan hefyd liniaru materion yn ymwneud ag unigrwydd ac arwahanrwydd.
2. Yn nodi'r pryder am ymgynghoriad presennol Adran Drafnidiaeth y DU ar drwyddedau trafnidiaeth cymunedol (adran 19/22) ac effaith bosibl hyn ar wasanaethau yng Nghymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gweithio mewn partneriaeth â'r sector trafnidiaeth gymunedol a chyrff cyhoeddus i sicrhau bod y sector yn gallu parhau yn ei rôl unigryw gan ddarparu dewisiadau trafnidiaeth pwrpasol ar gyfer pobl sy'n agored i niwed, er mwyn sicrhau mynediad i wasanaethau tra bod y broses ymgynghori yn mynd rhagddi;
b) datblygu cynlluniau wrth gefn i liniaru unrhyw effaith ar ddarpariaeth trafnidiaeth drwy wasanaethau bws mini a gyflenwir drwy drwyddedau adran 19 a 22;
c) cyhoeddi strategaeth glir sy'n cydnabod yr agwedd drawsbynciol ar ddarparu trafnidiaeth gymunedol ar draws adrannau Llywodraeth Cymru wrth gyflawni nodau strategol Llywodraeth Cymru;
d) darparu sefydlogrwydd sydd ei fawr angen ar gyfer y sector drwy symud tuag at gytundebau ariannu tair blynedd i alluogi sefydliadau i ddatblygu a bwrw ymlaen â chynlluniau, i sicrhau mwy o gynaliadwyedd a dull mwy strategol o ddarparu gwasanaethau; ac
e) sicrhau ymgysylltiad â phartneriaid perthnasol a rhanddeiliaid ledled Cymru i lywio ymateb Llywodraeth Cymru i'r ymgynghoriad, ac i sicrhau dealltwriaeth yn y sector o safbwynt Llywodraeth Cymru.
Ymgynghoriad Adran Drafnidiaeth y DU ar drwyddedau trafnidiaeth cymunedol (Saesneg yn unig)
Cefnogwyr:
Suzy Davies (Gorllewin De Cymru)
Russell George (Sir Drefaldwyn)
(0 munud)
(0 munud)
Ni chyflwynwyd cynnig.
(120 munud)
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, caiff y gwelliannau eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn ymddangos yn y Bil.
Mae’r gwelliannau wedi cael eu grwpio at ddibenion y ddadl a byddant yn cael eu trafod fel a ganlyn:
1. Egwyddorion a llywodraethu
amgylcheddol
9
2. Dyletswydd i adrodd ar
gydsyniad Gweinidogion Cymru (Adrannau 14 a
15)
3
3. Diddymu’r
Ddeddf
1, 2, 4, 5, 6,
8
4. Gweithdrefnau – gwelliant
technegol
7
Dogfennau
ategol
Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru),
fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2
Memorandwm Esboniadol
Rhestr o Welliannau wedi’u didoli
Grwpio Gwelliannau
(15 munud)
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 17 Ebrill 2018